|
 |
Press Reviews
Erthygl gan Kate Crockett o rhifyn Rhagfyr 2001 o'r cylchgrawn Barn ...
" ...Dydi Cerddoriaeth hiphop yn Gymraeg ddim yn beth newydd. Ers yr Wythdegau hyd heddiw mae'r arloeswyr yn y maes yma, Llwybr Llaethog, wedi bod yn rhyddhau recordiau Cymraeg - ac un ohonyn nhw hyd yn oed yn cynnwys rap yn yr iaith Wyddeleg. I unrhywun sy'n credu mai ffad newydd ydy hip hop Cymraeg, mae gwrando ar y casgliad "Hip-Dub Reggae-Hop 1985-2000" a rhyddhawyd y llynedd yn hanfodol. Y traciau arbrofol, gwleidyddol a blaengar yma sydd wedi gosod y sail ar gyfer grwpiau sydd wedi blaguro yng Nghymru yn ystod y pedair blynedd dwethaf.
Roedd Llwybr Llaethog yr 80au a'r 90au cynnar wedi bod yn rhan o'r un sin arloesol a nifer o fandie gitar. Erbyn hyn fe fyddwn i'n dadlau mai'r grwpiau hip hop ydi brenhinoedd y sin. A does dim prinder ohonyn nhw.
Dyw hi ddim yn beth newydd i weld ffraeo ffyrnig yn y byd hip hop, ac mae grwp y Tystion wedi gweld nifer o newidiadau i'r line-up ar hyd y blynyddoedd. Erbyn hyn mae cyn-aelodau'r Tystion wedi mynd ati i greu grwpiau erill - Skep a'r ysbrydoledig MC Mabon. A thra bod y sin hip hop yng Nghymru heb ddisgyn i lefel y saethu a'r llofruddio sy'n nodweddu'r byd yr ochr arall i For yr Iwerydd, mae'n amlwg o rai o'r sylwadau mewn ambell i gan nad ydi rhyfeloedd hip hop yn unigryw i ghettos a swyddfeydd recordio Efrog Newydd a Los Angeles.
Ac mae enwau erill i'w clywed hefyd. Enwau rhyfedd a dieithr, fel Invisible Ninja Storm, Mihangel Macintosh, Y Kontia, Defaid 'Gidol a'r Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front - pob un ohonyn nhw yn cynhyrchu cerddoriaeth yn y Gymraeg. Dyw hi ddim yn gwbwl glir faint ohonyn nhw sydd yn grwpiau go iawn
a faint sydd yn enwau eraill ar wynebau mwy cyfarwydd. Ond mae nhw yn sicr yn adlewyrchu poblogrwydd cynyddol cerddoriaeth hip hop yn y Gymraeg. Ac os ydych chi'n ansicr sut i ddod o hyd i nifer o'r artistiaid yma, does yna unman cystal a Radio Amgen, gwasanaeth radio ar y we. Mae'r gwasanaeth cyntaf o'r math yma yn y Gymraeg, Radio D, bellach wedi diflannu oddi ar y rhyngrwyd, felly diolch am fodolaeth y newydd-ddyfodiad hwn. o ymweld a
http://www.geocities.com/radio_amgen bob dydd Mercher, fe ddewch chi ar draws 'rhaglen' - heb unrhyw falu cachu, cwisiau ffonio i mewn na siarad o fath yn y byd - sy'n sicr o gynnwys rhai o'r artistiaid hyn.Dyma ydy y lle bellach i glywed y gorau o gerddoriaeth Gymraeg. newydd. (Ac o son am enwau rhyfedd, yma hefyd y dewch o hyd i 'artist' o'r enw Athro Diflas Ffwc.)
Un o'r grwpiau sydd wedi'i chwarae ar y gwasanaeth newydd ac sydd wedi dod i'r amlwg eleni yw Pep Le Pew - great white hope cerddoriaeth Gymraeg. Gyda chaneuon sy'n llawn o agwedd a negeseuon gwleidyddol, mae'r grwp ifanc yma o
Borthmadog yr union beth sydd ei angen arnon ni nawr. Ac yn dilyn yr EP "Y Mwyafrif' a rhyddhawyd yn gynharach eleni rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at glywed albwm ganddyn nhw yn fuan.
O edrych ar glawr EP Pep Le Pew, mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddo ac EP newydd Tystion "Y Meistri". Mae'r ddau wedi'u rhyddhau ar label Fitamin Un ac mae tebygrwydd y cloriau - papur du, graffeg syml gwyn, un delwedd gref yn y canol - yn cyfleu'r teimlad fod y rhain yn rhan o'r un sin ac yn ceisio cyflawni'r un math o beth. Eto i gyd mae gan yr hen stejars (bellach), Tystion, neges blaen i'r enwau eraill ar y sin. "Johnny Come Lately, gwrandwch ar y meistri" maen nhw'n brolio (yn null arferol ser y byd hip hop), ac ar sail yr EP yma alla i ddim anghytuno. Mae'n fwy accessible na llawer o'u cerddoriaeth ddiweddar, ond eto yn dangos yr un elfennau - agweddau caled, brolio, rhegi, gwleidyddiaeth, egni anhygoel a beirniadu ar y sefydliadau a'r cyfryngau yng Nghymru a'r bobl sy'n gweithio ynddyn nhw
."I rapio yn Gymraeg - y rheswm ges i'ngeni, fy mhwrpas mewn bywyd a fy mhwrpas i fodoli", meddai'r Tystion yn y gan "Y Meistri" - ac o wrando ar yr EP yma rhaid cytuno.
.... Mae'r sin hip hop Cymraeg ar hyn o bryd yn rhywbeth reit danddaearol - ac efallai fod nifer o'r artistiaid am ei chadw felly.Ond mae'n bechod nad ydi Cymru yn rhoi'r gydnabyddiaeth haeddiannol i'w phobl greadigol. Mae yna
ganoedd - os nad miloedd - ohonom ni yn gwneud ein bywoliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Tase'r gweinyddwyr, y cyfryngis a'r athrawon yn syrthio o dan fws yfori fe fyddai yna ddigon o bobl eraill i gymryd eu lle. A allwn ni fod mor sicr am ein artistiaid ni? Pam ein bod ni mor gyndyn i roi'r gefnogaeth
haeddiannol i'r bobl sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn, y bobl sydd yn creu rhywbeth gwreiddiol a chyffroes yn Gymraeg, y bobl sy'n sicrhau nad iaith y dosbarth canol, yr wyl Gerdd Dant a'r amgueddfa yn unig yw'r iaith Gymraeg?
Dyna ydi diffyg gweledigaeth. Gwrandwch ar Y Meistri."
|
 |
Location
Caerdydd, y byd rithwyr - South Georgia and the South Sandwich Islands |
 |
Copyright notice. All material on MP3.com is protected by copyright law and by international treaties. You may download this material and make reasonable number of copies of this material only for your own personal use. You may not otherwise reproduce, distribute, publicly perform, publicly display, or create derivative works of this material, unless authorized by the appropriate copyright owner(s).
|
|